<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:a="http://relaxng.org/ns/compatibility/annotations/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0">
<request>
<requestName>GetPassage</requestName>
<requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:57</requestUrn>
</request>
<reply>
<urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:57</urn>
<passage>Paul , carcharor Crist Iesu , a’r brawd Timotheus , at Philemon ein hanwylyd , a’n cyd-weithiwr , Ac at Apffia ein hanwylyd , ac at Archipus ein cyd-filwr , ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr wyf yn diolch i’m Duw , gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau , Wrth glywed dy gariad , a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu , a thuag at yr holl saint ; Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol , trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu . Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di , herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti , frawd . Oherwydd paham , er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist , i orchymyn i ti y peth sydd weddus : Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg , er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr , ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist . Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus , yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau : Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol , ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd ; Yr hwn a ddanfonais drachefn : a derbyn dithau ef , yr hwn yw fy ymysgaroedd i : Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi , fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl . Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim ; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid , ond o fodd . Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser , fel y derbynnit ef yn dragywydd ; Nid fel gwas bellach , eithr uwchlaw gwas , yn frawd annwyl , yn enwedig i mi ; eithr pa faint mwy i ti , yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd ? Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith , derbyn ef fel myfi . Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi , neu os yw yn dy ddyled , cyfrif hynny arnaf i ; Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun , myfi a’i talaf : fel na ddywedwyf wrthyt , dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd . Ie , frawd , gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd : llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd . Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat , gan wybod y gwnei , ie , fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd . Heblaw hyn hefyd , paratoa i mi lety : canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi . Y mae yn dy annerch , Epaffras , fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu ; Marc , Aristarchus , Demas , Luc , fy nghyd-weithwyr . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi . Amen .</passage>
<license>Public Domain</license>
<source>http://paralleltext.info/data/ retrieved via Canonical Text Service http://cts.informatik.uni-leipzig.de/pbc/cts/ with CTS URN urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:57</source>
</reply>
</GetPassage>
